Ym mis Awst, er mawr syndod i Lucy, Emily, Sam, Siân a Rhian, roedd un gylfinir i’w weld a’i glywed o hyd yn gwarchod cyw ar rostir yn ein hardal prosiect. Roedd hyn yn dipyn o syndod gan fod pob gylfinir arall yn ardal y prosiect, yr oedolion a’r cywion, wedi gadael, a hen ddychwelyd i’r arfordir ar ôl eu tymor magu blinedig. Fel tîm cawsom y fraint a’r gwewyr o ddilyn hynt a helynt y parau o ylfinirod o’r adeg y cyraeddasant yn ôl i’w tiroedd magu yma ym mis Chwefror. O weld gylfinir cyntaf y flwyddyn yn chwilota am fwyd yn eira mis Chwefror, drwy’r gwanwyn sych a phoeth, a’r haf oer a gwlyb, dyma stori tymor magu eleni yn ein hardal prosiect.
Gylfinir ger pwll newydd ei greu © Jake Stephen
Ein nythod a nytheidiau
Gan adeiladu ar lwyddiant y llynedd, pan ddaethpwyd o hyd i gynifer o nythod gylfinirod, aethom ati o ddifri eleni i wylio parau o ylfinirod a chwilio’n ddyfal am nythod. Roedd hyn yn golygu eistedd am oriau yn gwylio gylfinirod ar ôl i wirfoddolwyr fod wrthi’n gwneud archwiliad cychwynnol o ardaloedd penodol lle mae parau o ylfinirod wedi bod yno yn y gorffennol. Rydym yn ddiolchgar iawn i’r tua 30 o wirfoddolwyr a fu’n cerdded cilometrau dros dir garw i ddod o hyd i diriogaethau posibl y gylfinirod.
Ar 21 Ebrill, sy’n digwydd bod yn Ddiwrnod Gylfinirod y Byd, gwelsom ein nyth gyntaf eleni. Ar ôl dod o hyd i’r pant bychan yn y ddaear â hyd at bedwar wy ynddo, yn aml â chymorth Steve Dodd, sy’n un gwych am ddarganfod nythod, gweithiodd y staff yn gyflym i godi ffens drydan dros do o amgylch y nyth.
Roedd caniatâd caredig y ffermwr yn hanfodol er mwyn gwneud hyn. Yn ystod Ebrill a Mai llwyddasom i osod ffens o gwmpas 15 o nythod yma ac acw dros 7,063 hectar ardal y prosiect. Mae hyn yn cyfateb i tua 31% o’r 49 o diriogaethau gylfinirod posibl a nodwyd yn ardal y prosiect.
Ar ôl pwyso a mesur yr wyau’n ofalus gallem amcangyfrif dyddiadau deor, felly roeddem yn monitro pob nyth yn ofalus ar yr adeg y gwyddem y byddai’r cywion yn dod i’r byd.
Ein cywion
Eleni roeddem yn ffodus o gael cymorth Sam, Uwch Cynorthwyydd Ymchwilio, a oedd yn gyfrifol am osod tagiau electronig ysgafn ar y cywion. Roedd hwn yn ddatblygiad cyffrous ers y llynedd gan fod y tagiau VHF ysgafn yn ein galluogi i dracio’r nytheidiau o gywion ag antena radio yn ystod y pum wythnos pan fyddant yn chwilota am fwyd dan lygad barcud eu rhieni.
Unwaith eto, roedd y ffensys yn effeithiol iawn yn gwarchod y nytheidiau o wyau rhag ysglyfaethwyr a llwyddasom i dagio 35 o gywion. Fe wnaethon ni hefyd ddilyn rhai cywion heb eu tagio. Roeddem lawn gobaith wrth wneud hyn, ond yn fuan cawsom ein siomi pan welsom fod ysglyfaethwyr wedi cael gafael ar lawer o’r cywion hyn yn ystod wythnosau cyntaf eu bywydau. Rydym yn gwybod bod yr amrediad o ysglyfaethwyr a laddodd rhai o’r cywion yn cynnwys brain, carlwm neu wenci, cŵn, llwynogod, bwncathod a barcutiaid. Mae’n rhy fuan i ddweud beth yn union oedd yn gyfrifol am farwolaeth weddill y cywion – cafodd Sam y dasg annymunol o swabio cyrff neu dagiau er mwyn anfon samplau i ffwrdd am brofion DNA i geisio canfod beth oedd yr ysglyfaethwr. Byddwn yn cael y canlyniadau ymhen ychydig fisoedd. Ar yr amser yma ymddengys ychydig iawn o gywion a gafodd eu lladd gan lwynogod sydd yn ganlyniad nodedig. Y newyddion da yw bod cyfran o’r cywion wedi goroesi. Gwyddom fod o leiaf 11 o gywion wedi hedfan yn ardal y prosiect ac mae’n bosibl bod mwy na hynny wedi magu plu. Fel y bydd y darllenwyr yn sylweddoli, peth anghyffredin iawn yw gwybod i sicrwydd bod cyw wedi magu plu a hedfan, felly yn aml iawn rhaid i ni dybio bod hyn wedi digwydd ar sail ymddygiad yr oedolyn tua’r adeg y mae cyw wedi cyrraedd oed hedfan.
Nodyn i gloi
Wrth i ni fwrw golwg yn ôl dros dymor magu 2023 mae gennym deimladau cymysg. Rydym yn falch fod o leiaf 11 o gywion wedi hedfan y nyth. Rydym wedi dysgu llawer ar y daith ac rydym yn siŵr bod y gwaith caled o chwilio am nythod, dod o hyd iddyn nhw a gosod ffens dros dro o’u cwmpas yn werth ei wneud. Drwy wneud hyn, rydym yn rhoi’r cyfle gorau i wyau’r gylfinirod, fel bod mwy ohonyn nhw’n gallu deor nag a fyddai’n digwydd fel arall. Fodd bynnag, mae gennym dystiolaeth glir erbyn hyn fod cywion y gylfinir yn ein hardal prosiect dan bwysau aruthrol oherwydd ysglyfaethwyr amrywiol, ac nad yw pob pâr o ylfinirod yn llwyddo i gael cyw i fagu plu a hedfan bob dwy flynedd, sef yr hyn y mae angen iddyn nhw ei wneud er mwyn i’r boblogaeth oroesi. Mae hyn er gwaethaf ymdrechion anhygoel staff, ffermwyr, contractwyr a gwirfoddolwyr sy’n monitro ac yn gwarchod nythod a chywion. Mae angen amser i feddwl. Y farn gynnar, fodd bynnag, yw bod angen prosiect dilynol ar gyfer Ysbyty Ifan a Hiraethog. Rydym yn ymchwilio i weld os gallem ddefnyddio amrediad ehangach o ymyriadau all cynnwys rhoi hwb (headstart) i ylfinirod fel rhan o becyn o fesuriadau tu hwnt i 2024. Yn y cyfamser yn ystod 2024, sef blwyddyn olaf ein prosiect presennol byddem yn parhau i wella’r cynefin ar gyfer gylfinirod magu, rheoli pwysau ysglyfaethu yn ystod y tymor magu a gobeithiwn osod tagiau radio ar gywion.
Ystadegau 2023
Uchafswm nifer parau | – | 49 | Wyau wedi deor | – | 45 |
Nythod a nytheidiau a gafodd eu monitro | – | 28 | Cywion wedi eu tagio | – | 35 |
Nythod wedi eu ffensio | – | 15 | Isafswm y cywion wedi hedfan | – | 11 |
Wyau wedi’u dodwy yn y nythod | – | 53 |