Cri’r Gylfinir / Curlew LIFE
Mae niferoedd y gylfinir yn crebachu’n gyflym ledled Ewrop a gwledydd Prydain. Gyda chefnogaeth rhaglen LIFE y Comisiwn Ewropeaidd a phartneriaid eraill, nod prosiect Cri’r Gylfinir / CurlewLIFE yw gwrthdroi’r dirywiad hwn mewn pum ardal sy’n cael blaenoriaeth dros wledydd Prydain.
Y Broblem
Bu cwymp o 48% ym mhoblogaeth y gylfinir ym Mhrydain ers canol y 1990au ac mae’r niferoedd yn dal yn ansefydlog.
Beth rydyn ni’n ei wneud
Gweithio gyda rheolwyr tir a chymunedau i wella cynefinoedd a chodi ymwybyddiaeth o faterion gwarchod y Gylfinir.
Y Nod
Erbyn Rhagfyr 2024, bydd cynefinoedd gwell yn arwain at boblogaethau Gylfinir sefydlog yn ardaloedd y prosiect.
Yr ardaloedd prosiect
Mae'r prosiect yn cael ei rhedeg mewn pum ardal o flaenoriaeth yng Ngogledd Iwerddon, Cymru, Lloegr a'r Alban. Mae pob un o rain wedi cael eu dewis fel ardal o bwys i ylfinirod magu.
RSPB Insh Marshes
Ysbyty Ifan and HiraethogYsbyty Ifan and Hiraethog
Antrim PlateauAntrim Plateau
Lough Erne LowlandsLough Erne Lowlands
RSPB Geltsdale and Hadrian's WallRSPB Geltsdale and Hadrian's Wall
Ein Partneriaid
Rheolir prosiect Cri’r Gylfinir gan yr RSPB gyda chymorth hael gan raglen LIFE yr UE a’r partneriaid canlynol i’r prosiect; Cairngorms Connect, NIEA-DAERA, Fellfoot Forward Landscape Partnership Scheme, Cyfoeth Naturiol Cymru, RSPB
Ein Noddwyr
Ariennir prosiect Crir Gylfinir gan Raglen LIFE yr Undeb Ewropeaidd.
PROSIECT LIFE 2019 Y COMISIWN EWROPEAIDD (LIFE19 NAT/UK/000844)
Darparwyd cyllid ychwanegol gan y partneriaid a restrwyd uchod ar gyfer safleoedd prosiectau’r gwledydd perthnasol.