Mae’n debyg y dylem gyfeirio at y gân fel ‘galwad’ y gylfinir, gan mai gwyddonwyr gwrthrychol ydym ni ond dewision enwi’r prosiect, sydd wedi’i leoli ger Ysbyty Ifan a Hiraethog yn ‘cri’r gylfinir’! Does dim rhaid i mi egluro pam ein bod ni wedi canolbwyntio ar yr alwad, gan mai hwn sy’n cydio yn ein dychymyg a’n teimladau mwya’ am y rhywogaeth yma o aderyn. Yn unol â tharddiad yr enw Hiraethog, mae’n gallu bod yn anodd rhoi bys ar ba effaith yn union mae’r alwad fyrlymus gyda thinc y felan, yn ei gael ar rheiny ohonom sy’n ddigon ffodus o’i glywed yn arnofio dros ffridd a gweundir. Ffordd bynnag ‘dach chi’n ei ddisgrifio, mae’n cydio yn ein hemosiynau mwy na galwad bron unrhyw aderyn arall! Mae hyn yn wir i’r fath raddau, rydym yn sicr fe fyddai cri genedlaethol pe na bae plant rhannau o gefn gwlad Cymru yn gallu clywed y gân felodaidd ar awel deg cyfnos y gwanwyn yn y dyfodol. Ac eto dyma’n union beth fydd yn digwydd erbyn 2033 os nad ydym yn llwyddo atal y dirywiad syfrdanol yn y nifer o ylfinirod magu yng Nghymru.
Felly dyma’r ystadegau trist, os nad ydych eisoes yn ymwybodol ohonynt: mae’r nifer o ylfinirod magu yng Nghymru wedi gostwng fesul 69% rhwng 1995 a 2018. Ar hyn o bryd 5% yw’r raddfa newid pob blwyddyn ac felly dyma pam bod BTO a RSPBCymru yn rhagweld mai 2033 fydd blwyddyn apocalyps gylfinirod magu Cymru. Dyma gyd-destun dramatig y prosiect 4 mlynedd a aranwyd gan raglen LIFE yr EU ac a rheolir gan y RSPB o gwmpas Ysbyty Ifan a Hiraethog. Hwn hefyd yw pam bod y fath deitl â Chri’r Gylfinir ar y prosiect yn un mor addas. Mae’n drist nodi bod pan gynlluniwyd y prosiect ychydig flynyddoedd yn ôl roedd swyddogion yn rhagweld gall y gylfinir fod wedi diflannu o Gymru fel aderyn magu yn agosach at ganol y ganrif. Mae’r dyddiad wedi cael ei newid yn ddiweddar, sy’n dod â brys a phwysau mawr ar ein prosiect.
Felly pam bo’r prosiect yn canolbwyntio ar Ysbyty Ifan a Hiraethog? Yr ateb syml yw, mai fan hyn yw lle mae’r crynhoad fwyaf o ylfinirod magu yng Nghymru. Amcangyfrifir bod 10% o’r boblogaeth magu yng Nghymru yn yr ardal yma er does neb yn gwybod maint union y boblogaeth o adar magu oherwydd diffyg data cywir. Mae hyn yn rhannol oherwydd bod gylfinirod magu hwnt ac yma, gyda phâr fan hyn a phâr fan arall. Gwyddom oll bod data cywir yn dibynnu ar gofnodion cywir a phobl i gynnal arolygon yw yn union beth rydym yn chwilio amdanynt. Yn ystod y gaeaf byddem yn gwneud dipyn o waith ymarferol i wella cynefin nythu gylfinirod sy’n magu gyda ffermwyr y fro. Mae hi felly’n hanfodol ein bod ni’n monitro er mwyn gweld a ydy’r gwaith yma, ynghyd â’n gwaith parhaol o reoli ysglyfaethwyr, wedi helpu’n gylfinirod i fagu’n llwyddiannus. Beth am ddod a threulio ychydig oriau’n helpu monitro beth mae ein gylfinirod yn ei wneud neu arwyddion ysglyfaethwyr yn ystod gwanwyn2022? Os oes gennych ddiddordeb, cysylltwch â ni ar crigylfinir@rspb.org.uk.