Gwarchod Gylfinirod Ysbyty Ifan a Hiraethog
Mae ardal y prosiect yng Nghymru’n ymestyn dros ran uchaf Dyffryn Conwy o gwmpas Ysbyty Ifan a gweundir anghysbell Mynydd Hiraethog i’r dwyrain o’r A5. Mae’r safle’n gymysgedd o dir amaeth, gweundir uchel, gorgors a ffridd, ac mae’r ardal yn denu adar amrywiol sy’n cynnwys adar hirgoes, adar ysglyfaethus ac adar cân.
Mae gweundiroedd y Gogledd yn cynnal y boblogaeth magu fwyaf yng Nghymru – 38-47 o barau magu, sef rhyw 10% o boblogaeth magu’r wlad. Yn ôl yr adroddiad ‘Sefyllfa Adar yng Nghymru 2018’ roedd dros dri chwarter poblogaeth y Gylfinir yng Nghymru wedi diflannu dros y 25 mlynedd blaenorol, heb ddim awgrym fod y duedd yn arafu.
Bydd y prosiect yn gweithio gyda’r gymuned ffermio leol i gyflawni amryw o weithgareddau gan gynnwys monitro poblogaeth bresennol y gylfinir a gwella’i gynefin drwy greu mannau gwlyb, torri brwyn a phori dan reolaeth. Elfen bwysig arall fydd ymgysylltu â’r cymunedau i ledaenu brwdfrydedd ac angerdd dros warchod y gylfinir yn yr ardal a sicrhau dyfodol y Gylfinir yn y tymor hir.
Photo by Tony Pope
Golwg ar yr ystadegau sydd wrth wraidd y prosiect.
Os na fydd pethau’n gwella i’r gylfinir yng Nghymru, bydd wedi diflannu o’r tir erbyn 2049.
Newyddion y Prosiect
Mehefin 2021
Chwefror 2021
Oriel fideo
Our partners
The Curlews in Crisis project is managed by the RSPB with generous support from the EU LIFE programme and the following project partners; Cairngorms Connect, Fellfoot Forward Landscape Partnership Scheme, Natural Resources Wales and NIEA-DAERA.
Cairngorms Connect is part of the Endangered Landscapes Programme, which is managed by the Cambridge Conservation Initiative in partnership with Arcadia - a charitable fund of Lisbet Rousing and Peter Baldwin.
Fellfoot Forward Landscape Partnership Scheme is led by North Pennines AONB Partnership and funded by The National Lottery Heritage Fund.
Additional funding has also been received from the government’s Green Recovery Challenge Fund. The fund is being delivered by The National Lottery Heritage Fund in partnership with Natural England and the Environment Agency.