Prosiect Natur LIFE 4 blynedd yw Cri’r Gylfinir, dan reolaeth yr RSPB. Gan gydweithio’n agos gyda phartneriaid yn y prosiect, y nod yw sefydlogi niferoedd magu’r gylfinir mewn pum ardal flaenoriaeth ar draws pedair gwlad y Deyrnas Unedig drwy wella cynefinoedd lle maent yn magu.

Gwneir yr ymdrechion mwyaf yng Nghymru a Gogledd Iwerddon lle cafwyd y dirywiad gwaethaf (gostyngiad o 69 ac 82% ers canol y 1990au). Yn yr Alban a gogledd Lloegr rydym yn datblygu ‘canolfannau rhagoriaeth ar gyfer gwarchod y gylfinir’.

Amcanion

Mae gan y prosiect bum amcan:

  • Gwella amodau i’r gylfinir gael ffynnu, gan ddefnyddio’r dulliau cadwraeth gorau yn yr ardaloedd a ddewiswyd, er mwyn atal dirywiad yn niferoedd y gylfinir yn yr ardaloedd hyn.
  • Asesu ymatebion i’r gwaith hwn drwy fonitro cyflwr cynefinoedd, niferoedd ysglyfaethwyr, niferoedd y gylfinir a llwyddiant magu.
  • Datblygu cynlluniau yn sgîl y prosiect i gynnal niferoedd hyfyw yn yr ardaloedd dan sylw ac atal dirywiad y gylfinir mewn rhannau eraill o Brydain.
  • Cynyddu dealltwriaeth o bwysigrwydd a sefyllfa gylfinirod sy’n magu yng ngwledydd Prydain, ac o sut y gellir eu helpu, ymysg cymunedau lleol ac ymwelwyr yn yr ardaloedd dan sylw ac yn ehangach.
  • Creu a chyfnerthu rhwydweithiau i rannu’r arferion gorau ym maes gwarchod y gylfinir ar draws Prydain ac Ewrop; ac annog a galluogi llywodraethau pedair gwlad y Deyrnas Unedig i gymryd camau mawr hirdymor er lles y rhywogaeth hon.

Camau gweithredu

Cyflawnir Amcan 1 drwy gyfuniad o rannu cyngor a gweithredu ymarferol uniongyrchol i wella amodau magu i’r Gylfinir o fewn safleoedd y prosiect.

Cyflawnir Amcan 2 drwy ddefnyddio technegau monitro arloesol i roi gwell gwybodaeth ynghylch llwyddiant nythu’r gylfinir a thrwy ddatblygu timau gwirfoddolwyr i helpu cynnal y gwaith monitro yn y tymor hir.

Cyflawnir Amcan 3 drwy weithio gyda rhanddeiliaid allweddol y prosiect i ddatblygu Cynllun Gweithredu Rhywogaeth i’r Gylfinir ledled y Deyrnas Unedig a sicrhau fod cynlluniau yn eu lle gan bob un o dirweddau’r prosiect i sicrhau cadwraeth hirdymor y gylfinir wedi i’r prosiect hwn ddod i ben.

Cyflawnir Amcan 4 drwy amrywiol weithgareddau; ymgysylltu â pherchnogion tir a chymunedau lleol drwy deithiau cerdded, sgyrsiau a digwyddiadau hyfforddi i godi ymwybyddiaeth o faterion gwarchod y Gylfinir; defnyddio llwyfannau digidol fel y cyfryngau cymdeithasol a’r wefan i roi’r newyddion diweddaraf am y prosiect a chyfeirio pobl at wybodaeth bellach; gwneud arolwg gwyddor gymdeithasol a datblygu timau gwirfoddolwyr ac ‘Pencampwyr y Gylfinir’ i gefnogi gweithgareddau’r prosiect.

Cyflawnir Amcan 5 drwy gydweithio’n agos gyda rhanddeiliaid allweddol y prosiect: creu rhwydweithiau ar gyfer rhannu gwybodaeth, a dal i gyfranogi mewn rhwydweithiau sydd eisoes yn bodoli; a thrwy lunio astudiaethau achos a defnyddio’r wybodaeth a geir drwy’r prosiect i fod yn sail i gynnwys anghenion gwarchod y gylfinir wrth ddatblygu polisi.

Amserlen y prosiect – dyddiadau pwysig

Hydref 2020

Dechrau’r Prosiect – Cri’r Gylfinir/CulewLIFE.

Mawrth 2021

dechrau blwyddyn gyntaf y monitro

Canlyniadau a ddisgwylir

  • Gwella tua 4,700ha o gynefin i’r gylfinir
  • Monitro ar draws 5,000ha
  • Penodi a hyfforddi timau gwirfoddolwyr i gynnal y gwaith monitro a chynghori
  • Rhannu canlyniadau’r monitro gyda phartneriaid allweddol
  • Cwblhau cynlluniau penodol i fod yn weithredol wedi i’r Prosiect ddod i ben ym mhob un o’r pum ardal flaenoriaeth
  • Datblygu Cynllun Gweithredu Rhywogaeth ar gyfer y cyfan o’r Deyrnas Unedig, gan gydweithio â Cyfoeth Naturiol Cymru a Llywodraeth Cymru.
  • Cyrraedd o leiaf 500,000 o bobl ledled gwledydd Prydain (e.e. drwy’r cyfryngau digidol) a chael 5,000 o bobl i ymwneud yn uniongyrchol drwy weithgareddau ymgysylltu
  • Cynyddu dealltwriaeth o’r problemau sy’n wynebu’r gylfinir, a sut i fynd i’r afael â’r rhain yn ardaloedd y prosiect
  • Penodi ‘Pencampwyr y Gylfinir’ yn lleol i gefnogi ymgysylltiad lleol ac eiriolaeth genedlaethol
  • Cael rhwydweithiau lleol o ffermwyr a rheolwyr tir eraill ym mhob ardal flaenoriaeth i ymgysylltu â’r prosiect
  • Cyfarfodydd blynyddol rhwng aelodau allweddol pob safle i rannu gwybodaeth
  • Dal i gymryd rhan weithredol mewn fforymau gylfinir cenedlaethol
  • Cyfnewid gwybodaeth ledled Prydain ac Ewrop drwy rwydweithio, gan ddod â budd gweladwy i’r prosiect hwn ac i fentrau eraill i warchod y gylfinir
  • Llunio astudiaethau achos seiliedig ar dystiolaeth, creu ymyriadau llwyddiannus a’u defnyddio i gynnal eiriolaeth dros y gylfinir ar lefel leol a chenedlaethol
  • Cael llunwyr polisi i ymrwymo i ganlyniadau fydd yn gwarchod y gylfinir
  • Llunio mapiau sensitifrwydd i goedwigoedd