Julian Hughes yw Pennaeth Rhywogaethau RSPB Cymru, helpodd i ddatblygu prosiect Gylfinir LIFE ac mae’n aelod o Gylfinir Cymru, y grŵp sy’n cydlynu gwaith adfer ar gyfer y gylfinir yng Nghymru.

Petai gylfinirod yn dibynnu ar yr angerdd a’r cydweithrediad a rennir i’w hachub, byddai eu dyfodol yn ddisglair. Yn anffodus mae angen mwy na hynny arnynt, ond mae’n lle da i ddechrau.

Yn ddiweddar, lansiodd Gylfinir Cymru gynllun adfer cenedlaethol 10 mlynedd ar gyfer y gylfinirod, mewn digwyddiad ar-lein dan gadeiryddiaeth Mark Isherwood AS, eiriolwr y Senedd dros y gylfinir. Mae’r amcangyfrifon o nifer y gylfinirod sy’n bridio yng Nghymru yn amrywio o 400-1,700 pâr. Maent yn gostwng ar gyfradd o 6% bob blwyddyn a rhagwelir y byddant ar fin diflannu’n llwyr fel rhywogaeth fridio hyfyw erbyn 2033. Mae’r rheini’n ffigurau sy’n sobri a hynny am aderyn sydd, yn ystod fy oes i, wedi mynd o fod yn rhywogaeth amaethyddol gyffredin i fod yn un y mae ei gri’n absennol bellach o’r rhan fwyaf o gymoedd Cymru.

Ar ôl bod yn rhan o’r gwaith o ysgrifennu’r cynllun, ei lansio a phwyso am weithredu ar lawr gwlad, mae parodrwydd pawb sy’n gysylltiedig i hyrwyddo anghenion yr adar gwych hyn yn galonogol. Mae Gylfinir Cymru’n cynnwys grwpiau cadwraeth, undebau’r ffermwyr, y gymuned saethu, gwyddoniaeth a llywodraeth. Dydyn ni ddim yn cytuno ar bopeth – ac mae rhai pethau efallai na fyddwn ni byth yn cyd-weld yn eu cylch – ond mae digon o dir cyffredin ar gadwraeth y gylfinir ein bod wedi gallu gadael materion eraill wrth y drws a chanolbwyntio ar yr hyn sydd ei angen ar y gylfinir.

Mae’r Cynllun Adfer yn nodi 12 Ardal Gylfinir Bwysig, gan gynnwys y ddwy (Hiraethog ac Ysbyty Ifan) lle mae’r prosiect LIFE yn gweithio gyda ffermwyr a thirfeddianwyr i gynyddu cynhyrchiant y gylfinir. Mae’r Cynllun hefyd yn tynnu sylw at y manteision niferus – o ran byd natur, storio carbon a rheoli llifogydd – y gall y gwaith o reoli’r gylfinir eu sicrhau. Mae angen dybryd am adnoddau ar gyfer gwaith yn yr holl Ardaloedd Gylfinir Pwysig, er mwyn galluogi ffermwyr a sefydliadau i gydweithio. Ac mae angen i benderfyniadau polisi Llywodraeth Cymru ar ffermio, plannu coetiroedd a pholisïau cynllunio fod o fudd i’r gylfinir os yw’r adar i ffynnu yma yn y tymor hirach.

Gallwch chi wylio’r lansiad (45 munud) a llwytho’r Cynllun Gweithredu i lawr ar gyfer adferiad y Gylfinir yng Nghymru – www.gylfinircymru.org. Mae’r ffilmiau’n dangos bod llawer o ffermwyr eisiau gwneud y peth iawn. Gwyddom beth sydd ei angen, mae’r cynllun yno. Nawr mae angen yr ewyllys gwleidyddol a’r arian i wireddu hyn.

Julian Hughes – Pennaeth Rhywogaethau
RSPB Cymru