Mae wedi bod yn fisoedd prysur yn safleoedd prosiect Ysbyty Ifan a Hiraethog yng Nghymru. Rydyn ni wedi bod yn mynd i’r afael ag amrywiaeth o waith rheoli cynefinoedd er mwyn eu gwella ar gyfer ein gylfinirod sy’n bridio.

Rydyn ni wedi dewis ardaloedd lle mae’r gylfinir eisoes yn bridio, ond heb lwyddo i fagu’r rhai ifanc. Y nod yw gwella’r ardaloedd hyn ar gyfer bridio – gan ddarparu mannau mwy ffafriol i nythu, ardaloedd i gywion fwydo a lleihau’r gorchudd ar gyfer ysglyfaethwyr, fel prysgoed trwchus, coetir planhigfa a lleiniau cysgodi. Rydyn ni hefyd wedi codi ffens 2.5 km parhaol o amgylch ein hardal lle mae’r gylfinir yn fwyaf cynhyrchiol i atal ysglyfaethwyr. Mae’r ffens hon yn 1.6 m o uchder ac wedi’i chladdu o dan y ddaear gyda gwifrau wedi’u trydaneiddio ar ei brig. Mae’r ardal yn cynnwys cynefin bridio sy’n cynnal 6-10 pâr o ylfinirod a 15 a mwy o barau o gornchwiglod.

Golygfa o’r ffens newydd

 

Golygfa agos o’r ffens newydd

Yn anffodus, yn 2021 dim ond un cyw gylfinir a oroesodd yn yr ardal hon.  Mae hyn yn is o lawer na’r hyn sydd ei angen i gael poblogaeth gynaliadwy o ylfinirod. Mae ffensio yn amddiffyn wyau a chywion y gylfinir rhag ysglyfaethwyr fel llwynogod, a hynny mewn ffordd nad yw’n eu lladd. Yn yr ardal sydd wedi’i ffensio’n barhaol, rydyn ni wedi gwella’r cynefin ar gyfer y gylfinir sy’n bridio trwy gloddio pyllau bas ‘scrapes’ (pyllau dŵr er mwyn i’r cywion fwydo) a thorri brwyn i gynyddu amrywiaeth y cynefinoedd. Mae rhwyll y ffens yn ddigon llydan i ganiatáu i gywion adael yr ardal sydd wedi’i ffensio, ond rydyn ni’n gobeithio, trwy wella’r cynefin na fydd angen iddyn nhw ei adael nes eu bod wedi magu plu.

Pyllau wedi cael eu creu i gynyddu pryfetach

Tyllu pyllau bas a rhwystro dwr mewn ffosydd

Rydyn ni wedi defnyddio contractwr ffensio lleol; mae wedi bod yn wych gweld cynnydd a brwdfrydedd y tîm a lwyddodd i osod y ffens o fewn pythefnos! Mae’r ardal sydd wedi’i ffensio yn cynnwys tri pherchennog tir gwahanol. Ymgynghorwyd â nhw, a buon nhw i gyd yn ddigon caredig i ganiatáu i ni osod y ffens. Mae’r ffermwyr i gyd yn frwdfrydig am y gylfinirod ac yn edrych ymlaen at weld canlyniad y gwaith (croesi’n bysedd am dymor magu llwyddiannus)!

Lucy Foster
Swyddog Prosiect BYWYD Gylfinir – Ysbyty Ifan a Hiraethog