Dyma’n aml beth mae ffermwyr yn datgan mewn sgyrsiau ar y gostyngiad yn nifer y gylfinir sy’n nythu ar eu tir.  Mae’r rhan fwyaf o ffermwyr yn ardal Ysbyty Ifan a Hiraethog sydd â gylfinir yn nythu ar eu tir wedi sylwi bod llai o barau o gymharu â’r gorffennol.  Yn ôl Dion Williams, sy’n ffermio uwchben Pentrefoelas, byddai tua hyd at 6 o barau ar ei fferm Hafoty Gwyn pan oedd yn fachgen ond dim ond dau bâr sy’n nythu yno erbyn heddiw gyda trydydd pâr gerllaw. Mae’r sefyllfa hon ar fferm Dion yn adlewyrchu’r hyn sydd wedi digwydd yn genedlaethol i’r gylfinir sy’n nythu yng Nghymru – ers 1995 gwelwyd dirywiad o 68%.  Yn naturiol mae ffermwyr, yn ogystal â staff y prosiect, yn crafu eu pennau ac yn holi pam fod hyn yn digwydd.  Mae ffermwyr yn ymwybodol o’r dirywiad yn nifer y rhywogaeth boblogaidd o adar ac yn meddwl yn ôl dros y blynyddoedd i feddwl beth allai fod wedi achosi’r sefyllfa drist hon.  Fel arfer, ni allant gofio unrhyw newidiadau amlwg i arfer ffermio ac felly maent yn codi eu hysgwyddau ac yn dod i’r casgliad mai ffactorau y tu hwnt i’w rheolaeth sy’n gyfrifol am hyn. 

Er nad ydym yn gwybod yr union reswm pam fod nifer y gylfinir sy’n magu yn dirywio cymaint yn ucheldiroedd Cymru mae’r hyn rydym yn ei wybod yn awgrymu bod nifer o fân newidiadau cynyddol yn golygu nad yw’r gylfinir yn magu mor llwyddiannus ag o’r blaen.  Yr hyn rydym yn ei olygu gyda magu mor llwyddiannus yw deor wyau a magu 0.8 o gywion i’r cam adar bach y flwyddyn.  Dyma sydd angen iddyn nhw ei wneud er mwyn cynnal eu poblogaeth ac atal y dirywiad at ddifodiant yng Nghymru.  Felly, beth mae ‘newidiadau bach, cynyddol’ yn ei olygu? Dyma rai. 

Llai o bori gan wartheg 

Mae arfer ffermwyr o beidio â chadw gwartheg eidion neu wartheg gwydn o ganlyniad i economeg magu gwartheg yn golygu bod gan dir garw a phorfa fwy o lystyfiant trwchus yn tyfu ynddo.  Mae llai o sathru’r tir ac agor clytiau o frwyn.  Nid yw’r gylfinir yn hoffi caeau gyda thrwch sylweddol o frwyn tal ar gyfer nythu oherwydd ni allant gadw golwg am ysglyfaethwyr. 

Caeau llaith ac ardaloedd corsiog yn sychu  

Mae’r ymdrech i sicrhau’r lefelau uchaf o gynhyrchiant yn ystod cyfnodau ansicr wedi arwain at ffermwyr yn draenio caeau llaith ac ardaloedd corsiog drwy llnau hen ffosydd.  Yn y gorffennol byddai cymorth grantiau ar gael ar gyfer cloddio ffosydd.  Mae’r newid yn yr hinsawdd yn gwaethygu’r sefyllfa felly mae clytiau llaith a phyllau bas yn brin erbyn hyn. Yn anffodus, dyma yn union sydd ei angen ar gywion y gylfinir am eu bod yn bwydo ar bryfetach y dŵr ac yn chwilio yn y ddaear wlyb gyda’u pigau meddal. 

Lleiniau cysgod sy’n aeddfedu 

Mae polisïau a chymorthdaliadau amaethyddol blaenorol wedi arwain at blannu llawer o leiniau cysgod conifferaidd.  Fe fuddsoddodd llawer o ffermwyr yn y rhain yn ystod degawdau olaf yr 20fed ganrif ac mae’r coed aeddfed hyn yn darparu cuddfannau delfrydol i ysglyfaethwyr yn awr.  Afraid dweud, mae lleoliad agos y lleiniau cysgod at safleoedd magu’r gylfinir yn golygu marwolaeth sicr i gywion y gylfinir. 

Mwy o wyna dan do 

Mae arferion ffermio modern yn cynnwys dod â mamogiaid croesfrid i mewn i siediau ar gyfer wyna.  Mae hyn yn gwneud y profiad yn fwy cyfforddus i’r ffermwr a’r anifail, sy’n golygu bod mwy o ŵyn yn goroesi.  O ganlyniad, mae llai o angen i reoli’r risg gan lwynogod a brain yn y caeau ac felly mae ffermwyr yn buddsoddi llai yn hyn, ac mae unrhyw reoli ysglyfaethwyr yn digwydd o fewn cyfnod byrrach. 

Porthi ŵyn 

Mae’n arfer mwy cyffredin erbyn hyn i borthi ŵyn fel dull o’u diddyfnu a’u paratoi ar gyfer y farchnad.  Mae hyn yn golygu bod ffermwyr yn rhoi porthiant ychwanegol allan yn y caeau. Mae hyn yn gweithredu fel magnet i frain sydd ag enw drwg am fwyta wyau’r gylfinir. 

Cynhyrchu silwair 

Mae’r cynnydd sylweddol mewn gwerth maethol silwair o gymharu â gwair yn golygu bod ffermwyr yn torri gwair ar gyfer silwair yn gynharach nag y byddent yn arfer ei wneud a sawl gwaith yn ystod tymor tyfu.  O ganlyniad, mae nythod, wyau a chywion y gylfinir mewn caeau silwair yn cael eu dinistrio pan fydd y combein ar waith. 

Bydd blog arall yn y dyfodol yn esbonio’r hyn y gall ffermwyr ei wneud i geisio gwyrdroi’r dirywiad yn nifer y gylfinir sy’n nythu ar eu tir ar ucheldiroedd Cymru. 

Sian Shakespear
Ysbyty Ifan a Hiraethog – Swyddog Ymgysylltu a’r Gymuned