Dyma flog am fy mhrofiad a’m sylwadau yn gwirfoddoli gyda phrosiect Cri’r Gylfinir/CurlewLIFE yn ardal Ysbyty Ifan a Hiraethog. Mae hwn yn fenter i atal aderyn hirgoes poblogaidd rhag diflannu fel rhywogaeth magu o Gymru. Treuliais dymor yn cynnal arolygon wythnosol a sesiynau monitro a oedd wedi’u cynllunio gan dîm y prosiect. I ddechrau, roeddwn i ychydig yn amheus o gadwraeth rhywogaethau unigol sydd mewn perygl, ond ar ôl y profiad gwirfoddoli hwn, rwy’n cydnabod ei werth ac mae gen i ddealltwriaeth ddyfnach o’i ddiffygion hefyd.

Mae pobl Cymru yn hoff iawn o’r gylfinir ac maent yn adar diddorol, carismatig a chyfrin, gyda galwadau hyfryd. Maen nhw’n adar sy’n nythu ar y ddaear, sy’n golygu bod eu nythod yn dueddol o gael eu sathru neu eu hwyau neu gywion yn cael eu bwyta gan ysglyfaethwyr.

Er gwaethaf hyn, ar ôl i gyw gylfinir fagu plu a hedfan, mae ei siawns o oroesi fel oedolyn yn eithaf uchel. Nod y prosiect Cri’r Gylfinir/CurlewLIFE yw canfod ble mae tiriogaethau magu’r gylfinir ac yna gwarchod eu nythod yn ystod yr adegau tyngedfennol o ysglyfaethu posibl.

Des i’r prosiect fel newydd-ddyfodiad i’r byd cadwraeth adar, ac i fod yn gwbl onest, doeddwn i ddim yn poeni’r naill ffordd na’r llall am y gylfinirod. I mi, roedd yn drasiedi arall i’n hoes ni. Roeddwn i’n meddwl, yn naïf efallai, ei bod hi’n well adeiladu ecosystemau o’r gwaelod i fyny a gadael i ba rywogaethau sy’n diflannu i ddigwydd yn naturiol. Yn fy marn i, gall targedu un rhywogaeth achosi canlyniadau anfwriadol, ac yn aml nid yw’n galluogi rhywogaethau eraill rhag cystadlu’n deg am eu bodolaeth eu hunain.

I roi blas i chi o’r hyn a wnes i fel gwirfoddolwr, un prynhawn Sul pan oeddwn yn monitro’r nyth gylfinir a gafodd eu neilltuo i mi, fe wnes i wylio dau o’r gylfinir yn gwarchod eu cywion rhag ysglyfaethwyr. Byddai un rhiant yn cadw llygad o safle uchel tra byddai un arall yn bwydo gyda’r cyw. Pe bai ysglyfaethwr yn dod, byddai’r gwyliwr yn galw ac yn rhoi gwybod i’r rhiant yn is lawr. Pe bai’r bygythiad yn arbennig o ddifrifol, byddai’r ddau ohonynt yn hedfan i’r awyr er mwyn hel yr aderyn ysglyfaethus i ffwrdd.

Ni fyddai’r rhieni byth yn glanio wrth ymyl eu cywion, a dim ond ar ôl rhyw awr o arsylwi’n ofalus iawn a chuddio fy hun (sy’n anodd iawn i’w wneud ar rostir) y cefais olwg sydyn ar eu cyw. Maen nhw’n feistri ar dwyllo, tynnu sylw a chuddliwio, ac mae eu cywion dan fygythiad drwy’r amser.

Pan welais y cyw o’r diwedd, ar ôl pythefnos o ymdrechion aflwyddiannus, roeddwn i’n hapus iawn, ac roedd yn deimlad o lwyddiant go iawn – dyma uchafbwynt y tymor yn sicr. Fe wnes i eu gweld nhw eto bob wythnos am dair wythnos yn olynol, ac yna fe wnaethon nhw ddiflannu. Rydyn ni’n meddwl bod y cywion wedi llwyddo magu plu a goroesi. Nid oedd pob un o deuluoedd y gylfinir yr un mor lwcus.

Ar ôl arsylwi’r gylfinir yn agos am dymor – eu gwylio’n sefydlu tiriogaethau, dodwy eu hwyau, eu deor, dianc gyda’u cywion a symud ymlaen, rydw i wedi datblygu gwerthfawrogiad o’u hymddygiadau cymhleth a’u cymeriadau dyrys. Roedd hefyd yn bleser dysgu am arolygu adar yn gyffredinol a sut i gasglu data cywir ar gyfer ecolegwyr yn yr RSPB, heb sôn am natur dryslyd ceisio dod o hyd i nyth gylfinir, a oedd yn ymddangos yn gyfuniad o swyn hudolus a dewiniaeth ymddygiad y gylfinir.

Byddwn yn annog unrhyw un sy’n chwilfrydig am y materion hyn i dreulio tymor yn gwylio’r adar rhyfeddol. Ymunwch â’r Prosiect Cri’r Gylfinir/CurlewLIFE i weld a allwch ymestyn eich tosturi ac, ar yr un pryd, dysgu am gadwraeth, amaethyddiaeth a’r materion amgylcheddol sy’n ein hwynebu yn ein hoes. Mae’r rhain yn faterion cymhleth iawn, ond ni ddylai hynny eich atal rhag gwneud rhywbeth amdanyn nhw, hyd yn oed os nad yw’r hyn rydych chi’n ei wneud byth yn ddigon.